slide-1

Croeso i wefan Ysgol Borth-y-Gest


Ein nod fel ysgol yw meithrin, ysbrydoli, herio a chefnogi ein disgyblion drwy gynnig profiadau eang, symbylgar a chreadigol. Ein bwriad yw galluogi disgyblion Borth y Gest i fod yn ddysgwyr gydol oes a fydd yn cyrraedd eu llawn potensial mewn byd sy ’ n gyson datblygu. Ymfalchïwn yn hanes a hyfrydwch naturiol ein hardal, y cyfoeth o chwedlau a ' r tirlun, bydd hyn i gyd yn treiddio drwy ' n holl waith a phrofiadau ein plant o ' r cychwyn cyntaf. Y gobaith yw y bydd disgyblion Borth y Gest wedi’ u harfogi i gwrdd â’ r sialensiau a ddaw oherwydd byddant yn unigolion annibynnol, gwytn, medrus a chydweithredol. Anelwn at gael disgyblion cydwybodol, parchus a fydd yn ymfalchÏo yn eu hetifeddiaeth, traddodiadau a ’ u hiaith.

Newyddion

Hysbysfwrdd


Gwybodaeth i'w ddod yn fuan.....

DYSG A DAWN - YSGOL BORTH-Y-GEST