slide-1

Croeso i wefan Ysgol Borth-y-Gest


Ysgol Gynradd Sirol (Babanod/Iau) yw’r ysgol hon. Mae’n ysgol ddyddiol, ddwyieithog (Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg), gyd-addysgol.

Os ydych yn riant i blentyn yn yr ysgol am y tro cyntaf, hoffem eich croesawu fel rhieni, ac edrychwn ymlaen at gysylltiad hapus a buddiol yn ystod y blynyddoedd i ddod. Os oes gennych blentyn yn yr ysgol yn barod, 'rydym yn falch o gadw’r cysylltiad â chwi. Mae'r wefan hwn yn cynnig gwybodaeth am yr ysgol, ei nodau, cwricwlwm a gweithgareddau.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder, dewch i siarad gyda ni - mae'r drws bob amser ar agor.

13/11/19 - Cynllun cit i Ysgolion Aldi

Aldi's Kit for schools

Rydym wedi cofrestru gyda cwmni ALDI er mwyn bod yn rhan o’r cynllun Cit i Ysgolion. Gofynnwn yn garedig i chi gasglu’r sticeri a dod a nhw i’r ysgol. Diolch yn fawr! ...mwy o newyddion

12/11/19 - Priodas Ysgol Borth y Gest

Priodas Ysgol Borth y Gest

Cawsom ddiwrnod bendigedig ddoe yn dathlu y diwrnod mawr! Gweithiodd yr holl blant mor galed i drefnu diwrnod bythgofiadwy! Diolch yn fawr iawn....mwy o newyddion

Hysbysfwrdd


Ffon symudol yr ysgol allan o ddefnydd

Yn anffodus mae ffon symudol yr ysgol allan o ddefnydd ar hyn o bryn - os ydych eisiau cael gafael ar yr ysgol ffoniwch rhif ffon yr ysgol neu ebostio. Mi fydd taliadau School Gateway ar gael o ddydd Llun ymlaen...mwy o newyddion

DYSG A DAWN - YSGOL BORTH-Y-GEST